1 Rhagfyr 2017

Annwyl Arriva/Great Western/Cyngor Caerdydd/Stadiwm y Principality/Network Rail/Heddlu De Cymru/Heddlu Trafnidiaeth Prydain

Effaith seilwaith a chynllunio trafnidiaeth ar ddigwyddiadau mawr yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cymryd diddordeb yn y ffordd y mae seilwaith a chynllunio trafnidiaeth yn effeithio ar ddigwyddiadau mawr yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd.

Yn dilyn problemau yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn 2015, cynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes yn y Cynulliad diwethaf ymchwiliad a lluniodd gyfres o argymhellion i fynd i'r afael â'r materion.

Roedd y Pwyllgor wedi gobeithio y byddai'r rhain yn golygu bod modd osgoi ailadrodd y penawdau negyddol yn dilyn digwyddiadau chwaraeon. Rhoddodd y gwaith o gynnal Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA reswm i'r Pwyllgor feddwl bod hyn wedi digwydd.

Roedd yr adroddiadau yn y cyfryngau yn dilyn y digwyddiad bocsio diweddar yn Stadiwm y Principality ar 28 Hydref yn awgrymu bod rhai teithwyr yn aros am amser annerbyniol o hir am drafnidiaeth adref.

http://www.mirror.co.uk/sport/boxing/its-embarrassment-wales-queue-chaos-11430563

Cafodd y problemau hyn eu rhagweld hefyd mewn cyfryngau eraill yng Nghymru a thu allan, gyda phawb yn darogan anhrefn.

Warning of travel chaos in Cardiff for Anthony Joshua and Kubrat...

www.itv.com/news/wales/2017-09-07/possible-travel-chaos-for-boxing-in-cardiff/

7 Medi 2017 - Network Rail have warned there will be fewer trains travelling to Cardiff for fans attending the Anthony Joshua and Kubrat Pulev fight in the ...

The travel chaos facing Anthony Joshua fans going to his Cardiff fight ...

www.walesonline.co.uk › News › Wales News › Arriva Trains Wales

25 Hydref 2017 - The travel chaos facing Anthony Joshua fans going to his Cardiff fight this ... British Transport Police met the train on its arrival to Cardiff Central.

Chaos expected on the motorways during Anthony Joshua fight and ...

www.bristolpost.co.uk › News › Bristol News › Traffic & Travel

27 Hydref 2017 - Chaos expected on the motorways during Anthony Joshua fight and .... On the same day, extra traffic is also expected on the M4 heading to and ...

Mae'r Pwyllgor yn ysgrifennu at ystod o bartneriaid i ateb y cwestiynau a ganlyn:

·         Pa gamau a gymerwyd ers Cwpan Rygbi'r Byd 2015 i wella'r gwaith o gynllunio a darparu trafnidiaeth ar gyfer digwyddiadau mawr yng Nghaerdydd?

·         Pa drefniadau a oedd ar waith i ddiwallu anghenion y rheini a oedd yn teithio i Gaerdydd ac oddi yno ar 28 Hydref?

·         Pa heriau penodol a oedd yn codi yn sgil y digwyddiad bocsio hwn a sut y cafodd y rhain eu hystyried yn y broses gynllunio?

·         Sut wnaeth y gwaith datblygu yn y Sgwâr Canolog yn effeithio ar y gwaith?

·         Pa gamau a gymerwyd i liniaru effaith y gwaith ar Dwnnel Hafren a Thwneli Brynglas?

·         Beth oedd eich asesiad o effeithiolrwydd y trefniadau cynllunio teithio ar gyfer y digwyddiad? Ar faint o bobl y cafodd yr oedi effaith negyddol?

·         Pa wersi a ddysgwyd o'r digwyddiad hwn, a sut y caiff unrhyw wersi eu cymhwyso i ddigwyddiadau yn y dyfodol?

Byddem yn croesawu ymateb ysgrifenedig erbyn 22 Rhagfyr, er mwyn i'r Pwyllgor benderfynu pa gamau pellach i'w cymryd.

Russell George AC

Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau